Cwmni Mega yn cyflwyno

Culhwch ac Olwen

Taith 2024


Mae Culhwch yn caru Olwen er nad yw e wedi ei gweld hi erioed. Dyw Olwen erioed wedi clywed am Culhwch chwaith ac felly does ganddi ddim syniad bod Culhwch am ei phriodi.


Ond dyw tad Olwen, y cawr blin Ysbyddaden Boncyrs ddim eisiau i Olwen briodi byth ta beth. Ond dyw Culhwch ddim yn gwybod hynny ac mae’n dechrau ar ei daith i ddod o hyd i ferch ei freuddwydion.


Er mwyn ennill Olwen ma’ Mr. Boncyrs yn dweud bod rhaid i Culwch wneud ambell ‘i dasg fach fel ymladd draig, dwyn crib y Twrch Trwyth ac yn waeth na dim gwneud dawns y glocsen yn ei bants!


Beth alle fynd o’i le?!


Dewi Wykes Culhwch

Begw Rowlands Olwen

Cellan Wyn Cai

Sion Emyr Ysbyddaden Boncyrs

Gethin Roberts Llysnafwen

Dafydd Emyr Cadach Wyn Llestri

Ioan Williams Dawnsiwr

Olive Llywelyn Dawnsiwr

Tom Kemp Dawnsiwr

Cyd-ysgrifenwyr: Caryl Parry Jones a Non Parry

Cerddoriaeth Wreiddiol: Caryl Parry Jones

Cyfarwyddwyr: Lisa Marged a Gwydion Rhys

Coreograffydd: Ebony Morgans

Cyfarwyddwr Cerdd: Richard Vaughan

Cynllunydd Set: Gwyn Eiddior

Cynllunydd Gwisgoedd: Iona Williams


Mae Culhwch ac Olwen yn sioe ar gyfer ysgolion a theuluoedd ond wedi’i haddasu’n arbennig ar gyfer plant Blynyddoedd 1 i 7.


Tocynnau: £8 (1 athro am ddim gyda phob 10 disgybl)

+TAW mewn ambell leoliad

1 awr 30 munud (egwyl o 10 munud)

Mae’r sioe yn cynnwys golau strobe