BRENIN MARCH
Taith 2025

Oes ganddoch chi gyfrinach? Ydych chi wedi dweud wrth unrhyw un beth yw’ch cyfrinach? Wel naddo gobeithio achos fydde hi ddim yn gyfrinach wedyn na fydde hi? Dweud wrth un, dweud wrth bawb!
Wel dyma i chi hanes rhywun sydd â chyfrinach fawr – Y Brenin March. Ofn mawr y Brenin yw bod pawb yn dod i wybod am ei gyfrinach a’u bod am wneud hwyl am ei ben am byth!
Chi’n gweld, mae gan y Brenin glustiau ceffyl!! Mae ganddo gywilydd mawr ohonyn nhw ac yn eu cuddio drwy’r dydd, bob dydd.
Yr unig un arall sydd wedi gweld y clustiau ceffyl yw ei farbwr, Bifan sydd wedi cael ei siarsio i beidio dweud gair am y clustiau wrth neb …BYTH! Mae hyn yn faich anferth ar ysgwyddau Bifan druan.
Ond a fydd Bifan yn llwyddo cadw’r gyfrinach? Ydi Bev Bifan ei wraig fusneslyd sy’ wrth ei bodd yn clywed clecs y castell am ei dorri? Neu tybed a fydd cariad sbeitlyd y Brenin March, Ledi Gogo a’i ffrind gore Tom Trôns yn ceisio dinistrio’r Brenin ei hun?
Ac ydi’r cerddor DJ Es, sydd hefyd yn ffrind da i’r Brenin, yn coginio, glanhau, edrych ar ôl ei ddyddiadur, a chadw’r castell yn drefnus, am adael y gath o’r cwd? Dyna’r peth dwetha fydde hi am ei wneud!
Ond yn fwy na dim, a fydd clustiau ceffyl y Brenin March yn aros yn gyfrinach?
Oed: 5+
Tocynnau: £10 (+TAW mewn rhai lleoliadau)
1 awr 15 munud (dim egwyl)
Sioe fore: 10am
Sioe brynhawn: 12:30pm
Mae’r sioe yn cynnwys golau strobe.
Cronfa ‘Ewch i Weld’ gan y Cyngor Celfyddydau.
Mae’r Gronfa yn cynnig grantiau gwerth hyd at £1,000 er mwyn caniatáu i athrawon mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru fynd â’u dysgwyr allan i weld celfyddydau o safon mewn lleoliadau ar draws Cymru.


